P-06-1446 Diddymu'r enw ‘Wales’ a gwneud ‘Cymru’ yr unig enw ar ein gwlad - Gohebiaeth gan y deisebydd, 19 Tachwedd 2024
I bwy bynnag a wnelo,
Drwy gyfeirio at y ddogfen atodol mae’n amlwg iawn fod mwyafrif llethol o’ch aelodau wedi pleidleisio o blaid defnyddio’r ddwy iaith er mwyn caniatau yr un statws cyfreithiol i’r enw Senedd a sydd i’r enw WelshParliament. Wel, dyna benderfyniad twp ynde sydd yn gwneud dim i ddyrchafu y defnydd o’r Gymraeg yn yr union le ble mae ei hangen fwyaf er lles y genedl. Ac o ystyried y penderfyniad yna mae’n edrych yn debyg iawn bod eich agwedd tuag at Gymru ein gwlad a Chymry ein pobol yn rithiol llwyr. Diolch i’r drefn nad oes yr un ohonoch sydd ar hawl i bleidleisio dros unrhywbeth i wneud a Chymru yn gweithio i barc Cenedlaethol Eryri a pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dyweda i. O leia mae ein parciau cenedlaethol yn gweld y gwerth o ddyrchafu’r Gymraeg i’r entrychion - yn wahanol iawn i’r hyn a welwn gan ein aelodau seneddol yma yng Nghymru.
Dwi’n mawr obeithiol pan ddychwelyd y ddeiseb i’r pwyllgor deisebau y gwnan ystyried yn o ddifrif yr hyn mae ein parciau cenedlaethol yn eu cyflawni er lles Cymru, er lles yr Iaith Gymraeg a mynd ati i adlewyrchu ar hyn cyn gwneud penderfyniad terfynol arni. O gofio yr hyn mae ein parciau cenedlaethol yn gyflawni er budd Cymru a’r Gymraeg mae’n amlwg nad oes ganddynt ofn gwneud penderfyniadau anodd a nid chwarae’n saff fel mae’r Senedd yn tueddu i wneud - mae genai ofn bydd rhaid i’n aelodau seneddol feithrin yr asgwrn cefn sydd ei angen ar gyfer gwneud penderfyniadau anodd er mwyn dyrchafu Cymru i fod yn gyfartal a holl wledydd y byd a nid cuddio tu ôl i’r enw ‘Wales’ - enw does a wnelo hi ddim byd o gwbl a’n gwlad ni. Felly ewch amdani da chi a gwnewch y peth iawn dros Gymru am unwaith mewn 500 can mlynedd.
Mae’r genedl gyfan ynghyd a’r 12,101 a bleidleisioedd dros diddymu yr enw Wales yn haeddu llawer mwy genych na i chi gyfeirio’r ddeiseb i’r domen sbwriel oherwydd nad oes gennych yr asgwrn cefn i wneud beth sydd yn iawn er lles ein Cenedl. Dangoswch i’r byd eich bod o’r diwedd wedi cael eich dadrithio o beth mae’r enw Wales yn ei olygu a’i ddylanwad andwyol i hunaniaeth y Cymry. MEDDYLIWCH eich bod yn barc cenedlaethol am unwaith a gwnewch y peth iawn.
Gobeithiaf am y gorau ond disgwyliaf y gwaetha gennych yn anffodus.
Yn gywir,